This version of the Privacy policy was approved in October 2008 by the Board of Trustees. Next version was approved in the June 2014.


Yn gyffredinol

edit

Mae'r polisi hwn yn sôn am wybodaeth bersonol adnabyddadwy sy'n ddigon manwl i rywun adnabod y person hwnnw ac sydd yn cael ei gasglu neu ei gadw gan Sefydliad Wikimedia ('y Sefydliad' o hyn ymlaen) ar ei gweinyddion mewn perthynas â Phrosiectau Wikimedia ('y Prosiectau' o hyn ymlaen) a'u cymunedau. Er mwyn bod yn gyson â'i Bolisi Cadw Gwybodaeth, mae'r Sefydliad yn casglu ac yn cadw cyn lleied o wybodaeth bersonol adnabyddadwy ag sydd angen i gyflawni anghenion y Prosiectau o ddydd i ddydd.

Y cyhoedd a'r cydweithio a geir yn y prosiectau

edit

Mae holl Brosiectau Sefydliad Wikimedia yn ddatblygiadau cydweithredol drwy'r defnydd o feddalwedd MediaWiki. Gall unrhyw un â chysylltiad â'r we (ac sydd heb ei atal) olygu'r tudalennau sydd heb gyfyngiadau golygu arnynt ar y safleoedd hyn. Gellir golygu'r tudalennau hyn ar ôl mewngofnodi neu heb fewngofnodi. Drwy wneud hyn, mae'r golygyddion yn creu dogfen wedi'i golygu, gyda chofnod cyhoeddus o bob gair a ychwanegwyd neu a ddiddymwyd neu a newidiwyd. Mae hyn yn weithred gyhoeddus a chydnabyddir y golygyddion yn gyhoeddus fel awduron y newidiadau hynny. Mae pob cyfraniad a wneir i Brosiect, a phob gwybodaeth gyhoeddus am y cyfraniadau hynny, wedi eu trwyddedu unwaith ac am byth; gellir eu copio, eu dyfynnu, eu hailddefnyddio neu eu haddasu gan drydydd person, bron iawn heb amod.

Gweithgareddau ar brosiectau'r Sefydliad

edit

Mae'r Polisi hwn yn cyfeirio at wybodaeth breifat sydd wedi'i storio gan y Sefydliad neu yn ei meddiant ond nad ydyw ar gael i'r cyhoedd.

Mae nifer o weithrediadau rhwng y prosiectau a'r Sefydliad nad yw'r Polisi hwn yn cyfeirio atynt. Mae'r rhain yn cynnwys ymhlith eraill: agweddau ar chwilio a golygu tudalennau, defnyddio'r teclyn wici "anfon e-bost at ddefnyddiwr", tanysgrifio i restri e-bostio dan nawdd y Sefydliad a phostio e-byst atynt, cyfathrebu gyda gwirfoddolwyr trwy system docynnau'r Sefydliad ("OTRS"). Fe all y gweithrediadau hyn ddatgelu ar hap gyfeiriad IP cyfrannwr, a gwybodaeth bersonol adnabyddadwy arall o bosib, a hynny i'r cyhoedd, neu i grwpiau o wirfoddolwyr sy'n gweithio'n annibynnol ar y Sefydliad.

Mae rhai defnyddwyr yn cyfathrebu â'i gilydd y tu allan i wefannau'r Sefydliad, trwy e-bost, sianel gythafrebu ar y rhyngrwyd (IRC) a sgwrsio arall, neu wefannau annibynnol. Dylai'r defnyddwyr hyn asesu'r risg wrth gyfathrebu fel hyn, a phwyso a mesur eu hangen eu hunain am breifatrwydd, cyn bwrw ati.

Cyfrifon defnyddwyr a phriodoli awdur

edit

Nid yw'r Sefydliad yn gosod rheidrwydd ar olygwyr i gofrestru ar unrhyw gywaith. Gall unrhyw un olygu heb iddo fewngofnodi i unrhyw gyfrif defnyddiwr yn gyntaf, ac os gwnaiff hyn fe ymddengys y cyfraniad o dan gyfeiriad IP y cyfrannwr. Caiff cyfraniadau defnyddwyr sydd wedi cofrestru eu cydnabod wrth yr enw defnyddiwr a ddewiswyd ganddynt. Mae defnyddwyr yn dewis cyfrinair cyfrinachol sy'n cael ei ddefnyddio i wirio'r cyfrif. Ni ddylai neb ddatgelu cyfrinair cyfrif defnyddiwr na cwcis sydd yn dynodi defnyddiwr, na'u dadlennu o fwriad, heblaw bod gofynion y gyfraith yn gorfodi datgelu’r wybodaeth. Unwaith y caiff cyfrifon defnyddwyr eu creu, ni chânt eu tynnu i ffwrdd. Os yw polisi cywaith arbennig yn caniatáu, fe all enw defnyddiwr gael ei newid. Nid yw'r Sefydliad yn addo newid enw defnyddiwr ar gais neb.

Pwrpas casglu gwybodaeth breifat

edit

Mae’r Sefydliad yn casglu data ynglŷn â defnyddiwr y gellir ei adnabod dim ond pan fod diben y casglu er budd y prosiectau. Mae’r dibenion hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, y canlynol:

Cryfhau atebolrwydd y prosiectau i’r cyhoedd. Mae’r Sefydliad yn cydnabod bod system sydd yn ddigon agored i alluogi cynifer o’r cyhoedd a fo’n bosibl i gyfrannu iddo, hefyd yn agored i gael ei gam-drin a dioddef camymddwyn. Mae’r Sefydliad a chymunedau’r prosiectau wedi dyfeisio nifer o ffyrdd i atal pobl rhag cam-drin y prosiectau ac i drwsio gweithredoedd difrïol. Er enghraifft, fe all y prosiectau ymchwilio i gamymddwyn, er enghraifft, y defnydd maleisus o “sockpuppets” (sef amlhau cyfrifon), fandaleiddio, ac aflonyddu ar ddefnyddwyr eraill. Wrth ymchwilio gallant archwilio logiau a chofnodion eraill yn y data-bas er mwyn defnyddio cyfeiriadau IP defnyddwyr i ddarganfod tarddiad y camymddwyn. Fe all y wybodaeth hon gael ei rhannu rhwng y defnyddwyr sydd â galluoedd gweinyddwyr ganddynt, ac sydd wedi eu hawdurdodi gan eu cymuned i amddiffyn y prosiect.
Crynhoi ystadegau’r safle. Mae’r Sefydliad yn samplu data amrwd o’r lòg ymweliadau â’r wefan. Defnyddir y logiau hyn i gynhyrchu’r tudalennau o ystadegau’r safle; nid yw’r data amrwd yn cael ei gyhoeddi.
Datrys problemau technegol. Gall datblygwyr archwilio data’r logiau wrth iddynt ddatrys problemau technegol ac wrth fynd ar ôl corynnod y we sy’n camymddwyn trwy lethu’r wefan.

Manylion y mathau o ddata a gedwir

edit

Disgwyliadau cyffredinol

edit

Cyfeiriad IP a gwybodaeth dechnegol arall

edit
Pan fo ymwelydd yn ceisio tudalen neu'n ei ddarllen, neu'n anfon e-bost at weinydd Wikimedia, ni chesglir rhagor o wybodaeth nag a arferir ei gasglu gan wefannau'n gyffredinol. Fe all fod Sefydliad Wikimedia yn cadw logiau amrwd o'r trafodion hyn, ond ni chyhoeddir y rhain, ac ni ddefnyddir y wybodaeth hon i ddilyn trywydd defnyddwyr dilys.
Pan gaiff tudalen ei golygu gan olygydd sydd wedi mewngofnodi, mae'r gweinydd yn storio gwybodaeth IP ynghlwm wrth y golygiad hwnnw, gan gadw cyfrinachedd, dros gyfnod penodedig. Fe gaiff y wybodaeth hon ei dileu ar ôl cyfnod penodedig. Pan nad yw golygydd wedi mewngofnodi, fe gaiff y golygiad ei thadogi'n gyhoeddus ac yn barhaol i'r cyfeiriad IP. Efallai y gallai rhywun arall adnabod yr awdur o wybod y cyfeiriad IP, ynghyd â gwybodaeth arall a all fod ar gael. Gan hynny, mae mewngofnodi ar enw cofrestredig yn arbed preifatrwydd person yn well.

Cwcis

edit
Mae'r wefan yn creu cwci dros dro ar gyfrifiadur ymwelydd wrth i hwnnw ymweld â thudalen ar y wefan. Mae darllenwyr nad ydynt am fewngofnodi na golygu yn gallu nacau'r cwci; fe gaiff y cwci ei ddileu ar ddiwedd y sesiwn pori. Gall rhagor o gwcis gael eu gosod pan fydd person yn mewngofnodi, er mwyn cadw'r cyflwr mewngofnodedig. Os bydd person yn cadw enw defnyddiwr neu gyfrinair ar ei borwr gwe, bydd y wybodaeth ar gadw am hyd at 30 diwrnod, ac fe fydd y wybodaeth yn cael ei ail-ddanfon i'r gweinydd bob tro y bydd person yn ymweld â'r Prosiect hwnnw. Pan fo cyfrannwr yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus a ddim am i ddefnyddwyr eraill weld ei enw defnyddiwr, dylai glirio'r cwcis hyn ar ôl eu defnyddio.

Hanes tudalennau

edit
Fel arfer mae golygiadau a chyfraniadau eraill i erthyglau, tudalennau defnyddwyr a thudalennau sgwrs yn cael eu cadw am byth. Pan gaiff darn o destun ei dynnu o'r prosiect, ni chaiff ei ddileu'n barhaol. Fel arfer, gall unrhyw un edrych ar fersiwn gynt o ryw erthygl a gweld cynnwys y fersiwn honno. Hyd yn oed pan fydd erthygl yn cael ei "dileu", gall defnyddwyr sydd â galluoedd uwch nag arfer weld yr hyn a dynnwyd o olwg y cyhoedd o hyd. Fe all gwybodaeth gael ei dileu'n barhaol gan y rhai hynny sydd yn gallu cyrchu gweinyddion Wikimedia. Ond nid oes unrhyw warant y caiff unrhyw beth ei ddileu'n barhaol, heblaw yn yr achosion prin hynny lle y gosodir rheidrwydd ar y Sefydliad i ddileu deunydd hanes golygu gan orchymyn llys neu broses cyfreithiol arall tebyg.

Cyfraniadau defnyddwyr

edit
Caiff cyfraniadau defnyddwyr eu crynhoi a'u gosod yn agored i'r cyhoedd eu gweld. Caiff cyfraniadau defnyddiwr eu crynhoi yn ôl eu cyflwr cofrestri a mewngofnodi. Mae data ar gyfraniadau defnyddiwr, megis amser golygu a nifer eu golygiadau, ar gael i'r cyhoedd ar y rhestri cyfraniadau ar gyfer pob defnyddiwr. Mae'r data hwn hefyd yn cael ei grynhoi a'i gyhoeddi gan ddefnyddwyr eraill.
Darllen y prosiectau
edit
Ni chesglir rhagor o wybodaeth am ddefnyddwyr ac ymwelwyr sy'n darllen tudalennau nag a gesglir fel arfer gan logiau gweinyddion gwefannau. Felly wrth ymweld â thudalennau, fe gesglir data lòg amrwd ar gyfer defnydd cyffredinol, ond nid yw manylion unrhyw ymwelydd ar gael i’r cyhoedd. Fe all data lòg amrwd gynnwys cyfeiriad IP unrhyw ddefnyddiwr, ond ni chaiff ei gyhoeddi.
Golygu'r prosiectau
edit
Fe gaiff golygiadau i dudalennau’r prosiectau eu tadogi i’r enw defnyddiwr neu i gyfeiriad IP y golygydd. Fe gaiff hanes golygu pob awdur ei grynhoi ar restr cyfraniadau. Bydd y wybodaeth hon ar gael yn barhaol ar y prosiectau.
Defnyddwyr cofrestredig sydd wedi mewngofnodi:
Ni chaiff cyfeiriad IP defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi ei arddangos i’r cyhoedd, heblaw mewn achos o gamymddwyn, gan gynnwys pan fo tudalen wici yn cael ei fandaleiddio gan y defnyddiwr neu gan ddefnyddiwr arall sy’n defnyddio’r un cyfeiriad IP. Fe gaiff cyfeiriad IP defnyddiwr ei gadw ar weinyddion y wici am gyfnod. Yn ystod y cyfnod hwn gall gweinyddwyr y gweinyddion a’r defnyddwyr sydd â galluoedd CheckUser weld y wybodaeth hon.
Mae'n bosib y bydd gwybodaeth am gyfeiriadau IP, a'r cysylltiad rhyngddynt ag unrhyw enwau defnyddwyr sy'n rhannu'r un cyfeiriad, yn cael ei ddatgelu mewn rhai amgylchiadau (gweler isod).
Os yw golygydd yn defnyddio gweinydd e-bost yn perthyn i gwmni wrth weithio gartref, neu'n cyfathrebu drwy gysylltiad Rhyngrwyd DSL neu gebl, yna mae'n debygol y gall gael ei adnabod yn rhwydd yn ôl ei gyfeiriad IP. Os felly, gall fod yn rhwydd trawsgyfeirio'r holl gyfraniadau i'r gwahanol Brosiectau a wnaethpwyd gan yr IP hwnnw. Mae defnyddio enw defnyddiwr yn well ffordd o arbed preifatrwydd yn y sefyllfa hon.
Defnyddwyr cofrestredig nad ydynt wedi mewngofnodi, a defnyddwyr anghofrestredig:
Gellir adnabod golygwyr nad ydynt wedi mewngofnodi wrth eu cyfeiriad rhwydwaith IP. Yn dibynnu ar y math o gysylltiad rhyngrwyd sydd gan y defnyddiwr, fe ellir olrhain y cyfeiriad gwe i gyflenwr gwasanaeth rhyngrwyd mawr neu at ryw ysgol, gweithle neu gartref penodol. Efallai y gellir defnyddio'r wybodaeth hon, ynghyd â gwybodaeth arall megis arddull golygu a dewisiadau'r cyfrif, i enwi'r awdur.

Sgyrsiau

edit
Ar dudalennau trafod y wici:
Mewn egwyddor gall unrhyw dudalen y gellir ei golygu fod yn fan trafod. Yn gyffredinol, gall trafodaethau ar brosiectau'r Sefydliad ddigwydd ar dudalennau sgwrs defnyddwyr (ar gyfer defnyddwyr neilltuol), ar dudalennau sgwrs erthyglau (ar gyfer erthyglau neilltuol), neu ar dudalennau wedi eu neilltuo at y gwaith o drafod (e.e., Y Caffi). Mae a wnelo'r disgwyliadau arbed preifatrwydd â'r tudalennau hyn fel ag â thudalennau eraill.
Trwy e-bost:
Nid oes rheidrwydd ar ddefnyddwyr i gofnodi cyfeiriad e-bost wrth gofrestri. Gall y defnyddwyr hynny sy'n rhoi cyfeiriad e-bost dilys ddewis rhoi'r gallu i ddefnyddwyr eraill sydd wedi mewngofnodi anfon e-bost atynt trwy'r wici. Pan dderbynnir e-bost oddi wrth ddefnyddiwr arall trwy'r system hon, nid yw cyfeiriad e-bost yr un sy'n derbyn yr e-bost yn cael ei ddatgelu i'r un sy'n ei anfon. Pan anfonir e-bost at ddefnyddiwr arall, caiff cyfeiriad e-bost yr un sy'n anfon ei ddangos ar yr e-bost.
Os bydd y Sefydliad am gysylltu â defnyddiwr fe anfonant e-bost at y cyfeiriad yn newisiadau'r defnyddiwr. Os nad yw'r cyfeiriad e-bost ar gyfrif y defnyddiwr yn un dilys, ni fydd y defnyddiwr yn gallu ail-osod ei gyfrinair os aiff hwnnw ar goll. Os digwydd hynny fodd bynnag, gellir gofyn i un o'r gweinyddwyr ar weinydd Wikimedia i osod cyfeiriad o'r newydd ar y cyfrif. Gall defnyddiwr dynnu ei gyfeiriad oddi ar ddewisiadau'r cyfrif unrhyw bryd fel nad oes modd ei ddefnyddio. Gall e-bost preifat rhwng defnyddwyr gael ei drin fel y mynnont hwy; nid yw polisïau Sefydliad Wikimedia yn berthnasol iddo.
Ar restrau e-bostio:
Gall tanysgrifwyr i restri e-bost y Prosiectau weld cyfeiriadau e-bost y canlynol: y rhai sy'n postio ar y rhestr, a thanysgrifwyr eraill. Mae archifau'r rhan fwyaf o'r rhestri e-bostio hyn ar gael i'r cyhoedd, a gellir chwilio'r archifau cyhoeddus hyn ar y We. Mae'n bosib y caiff cyfeiriad e-bost rhyw danysgrifiwr ei nodi mewn neges oddi wrth danysgrifiwr arall. Mae'n bosib y caiff y cyfeiriadau e-bost hyn a'r negeseuon a anfonwyd i'r rhestr e-bostio eu rhoi ar gadw mewn archif; a gall yr archif fod ar gael i'r cyhoedd yn barhaol.
Trwy OTRS:
Caiff e-byst sy'n cael eu hanfon at rai cyfeiriadau e-bost (megis info-en ar Wikimedia dot org) eu hanfon ymlaen at dîm o wirfoddolwyr y mae'r Sefydliad wedi ymddiried ynddynt i ddefnyddio system docyn, megis OTRS, i ateb. Nid yw e-bost a anfonir at y system hon ar gael i'r cyhoedd ei weld, ond mae'r gwirfoddolwyr yn gallu gweld yr e-byst. Gall aelodau o dîm y system docyn drafod cynnwys yr e-byst hyn gyda chyfranwyr eraill er mwyn gallu ymateb i'r e-bost. Fe all yr e-byst a ddanfonir at gyfeiriadau preifat aelodau o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, a staff y Sefydliad, hefyd gael ei anfon ymlaen at y tîm OTRS. Gallai aelodau o'r OTRS rhoi'r negeseuon hyn a'r cyfeiriadau e-bost ar gadw, ac fe fydd y wybodaeth yma ar gael iddynt hwy a hefyd i unrhyw wasanaeth e-bost y byddant yn ei defnyddio.
Ar IRC:
Nid yw sianeli IRC yn rhan swyddogol o Sefydliad Wikimedia ac nid gweinyddion Wikimedia sydd yn eu cynnal. Fe allai defnyddwyr sy'n sgwrsio ar sianel IRC weld cyfeiriadau IP defnyddwyr eraill y sianel. Polisïau'r sianel a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaeth IRC sy'n pennu i ba raddau y bydd preifatrwydd eu defnyddwyr yn cael ei warchod. Mae gan y sianeli hyn wahanol bolisïau ar gyhoeddi logiau.

Cyrchu a rhyddhau gwybodaeth bersonol adnabyddadwy ynglŷn â pherson adnabyddadwy

edit

Cyrchu:

Cyfranwyr gwirfoddol yw mwyafrif y rhai sy'n cynnal y Prosiectau. Mae rhai defnyddwyr ymroddgar yn cael eu dewis gan y gymuned i fod â chyrchfreintiau ganddynt. Er enghraifft, ar gyfer defnyddiwr y Wikipedia Saesneg, mae gwahanol lefelau o gyrchu ar gael i ddefnyddwyr yn ôl y 'grwpiau defnyddwyr' y mae'n perthyn iddynt. Gallwch ddarllen am alluoedd aelodau grŵp arbennig ar y dudalen Arbennig:ListGroupRights a hefyd gweld pwy sy'n perthyn i'r grŵp hwnnw ar y prosiect hwnnw.

Ymhlith y rhai sydd yn gallu cyrchu gwybodaeth breifat am ddefnyddwyr adnabyddadwy mae’r rhain (a heb gyfyngu’r rhestr at y rhain yn unig):

  • y rhai sydd â mynediad i OTRS,
  • y rhai a chanddynt gyfrifoldeb dros Archwilio Defnyddwyr,
  • y rhai a chanddynt gyfrifoldeb dros Oruchwylio
  • defnyddwyr wedi eu hethol gan y gymuned at swydd stiward,
  • defnyddwyr wedi eu hethol gan y gymuned i fod yn Gymodwyr,
  • y rhai sy’n gweithio i Sefydliad Wikimedia, fel ymddiriedolwyr, yn gyflogedig, wedi eu hapwyntio, ar gytundeb, neu fel asiant,
  • y rhai sydd â mynediad at y gweinyddion, gan gynnwys Datblygwyr a Gweinyddwyr y System.

Mae cyrchu a chyhoeddi’r wybodaeth hon yn gweithio yn ôl gofynion y polisi ar gyfer Cyrchu Gwybodaeth Nad yw ar Gael yn Gyhoeddus, ac yn ôl gofynion y polisïau arbennig sy’n rheoli rhai o’r swyddi a’r galluoedd arbennig hyn. Nid ydym yn ystyried bod rhannu gwybodaeth ymhlith defnyddwyr eraill â chyrchfreintiau ganddynt yn weithgaredd sy’n rhaid ei drin fel gweithgaredd “cyhoeddi” neu “ryddhau”.

Rhyddhau: y Polisi ar Ryddhau Gwybodaeth

Polisi Wikimedia yw y gall gwybodaeth bersonol adnabyddadwy gael ei ryddhau gan wirfoddolwyr Wikimedia neu ei staff, pan ddigwydd un o’r canlynol:

  1. O dderbyn gwyslythyr neu gais gorfodol yn ôl y gyfraith,
  2. Gyda chaniatâd y defnyddiwr ei hunan,
  3. Wrth ymchwilio i gyhuddiadau o gam-drin, os oes rhaid,
  4. Pan fod corryn neu bot yn cynhyrchu ymweliadau â thudalennau ac mae angen rhannu gwybodaeth am hyn er mwyn egluro materion technegol neu eu datrys,
  5. Pan fod defnyddiwr wedi fandaleiddio tudalennau neu wedi mynnu tarfu ar y wici byth a hefyd, fe all gwybodaeth gael ei anfon at ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd, cludydd, neu drydydd person arall er mwyn cynorthwyo’r gwaith o osod blociau IP, neu osod cwyn gerbron y Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd perthnasol,
  6. Pan fod angen, o fewn rheswm, amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch Sefydliad Wikimedia, ei defnyddwyr neu’r cyhoedd.

Mae’r wybodaeth bersonol adnabyddadwy hon yn cynnwys:

  • gwybodaeth a gaiff ei chasglu yn logiau’r gweinyddion
  • gwybodaeth yn y bas data a ddaw i’r golwg wrth Archwilio Defnyddwyr
  • gwybodaeth a ddatgelir drwy ddulliau eraill nad ydynt ar gael i’r cyhoedd.

Heblaw am yr achosion a ddisgrifiwyd uchod, nid yw polisi Wikimedia yn caniatáu rhyddhau gwybodaeth bersonol adnabyddadwy o dan unrhyw amgylchiadau.

Cyrchu gan drydydd person a rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig bod cais cyfreithiol wedi ei dderbyn:

Fel mater o egwyddor, fe gedwir cyn lleied o wybodaeth bersonol adnabyddadwy a phosib, ac fe’i cyrchir hefyd cyn lleied â phosib. At hynny, dim ond at ddefnydd mewnol er hyrwyddo lles y prosiectau y dylid defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy. Fodd bynnag, fe all ddigwydd o bryd i’w gilydd bod y Sefydliad yn derbyn gwyslythyr neu gais gorfodol arall gan swyddogion y gyfraith, y llys neu'r llywodraeth sydd yn mynnu bod y Sefydliad yn datgelu gwybodaeth am ddefnyddiwr cofrestredig, ac y bydd y Sefydliad yn gorfod ufuddhau iddo. Pan ddigwydd hyn, fe fydd y Sefydliad yn ceisio rhoi gwybod i’r defnyddiwr hwnnw am hyn, a hynny o fewn 3 diwrnod gwaith wedi i’r gwyslythyr gyrraedd. Y modd o roi gwybod bydd trwy anfon e-bost at y cyfeiriad e-bost y mae’r defnyddiwr wedi ei gofnodi yn ei ddewisiadau, os oes un yno.

Ni all y Sefydliad roi cyngor ar y gyfraith i ddefnyddiwr sy’n derbyn gwyslythyr, na rhoi cyngor ar sut y gellir ymateb i wyslythyr. Y mae’r Sefydliad yn nodi, fodd bynnag, y gall fod hawl yn ôl y gyfraith gan y defnyddiwr i atal gwybodaeth rhag cael ei ddatgelu yn y llys, neu i gyfyngu ar y wybodaeth a ddatgelir, a hynny trwy wneud cais i ddirymu’r gwyslythyr. Dylai defnyddiwr, sydd am wrthwynebu gwyslythyr neu gais gorfodol arall, geisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’i hawliau cyfreithiol ac unrhyw feddyginiaeth yn ôl y gyfraith sydd ar gael iddo.

Os bydd defnyddiwr, neu ei gyfreithiwr, yn gwneud cais llwyddiannus i’r llys i ddirymu gwyslythyr neu i gyfyngu ar ofynion y gwyslythyr, yna ni fydd y Sefydliad yn datgelu’r wybodaeth a ofynnwyd amdani nes bod Sefydliad Wikimedia yn derbyn gorchymyn o’r llys i ddatgelu’r wybodaeth.

Nid oes rhaid i ddefnyddiwr cofrestredig roi ei gyfeiriad e-bost. Fodd bynnag, pan nad yw defnyddiwr cofrestredig yn rhoi ei gyfeiriad e-bost, ni all y Sefydliad roi gwybod iddo trwy gyfrwng neges e-bost breifat, ei bod wedi derbyn cais gan weision y gyfraith i ddatgelu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdano.

Ymwadiad

edit

Y mae Sefydliad Wikimedia yn dal bod diogelu gwybodaeth am ddefnyddiwr a’i gadw’n breifat o fudd sylweddol. Y mae’r Polisi Preifatrwydd hwn, ynghyd â pholisïau, penderfyniadau a gweithredoedd eraill ar ran y Sefydliad, yn deillio o ymdrech ymroddedig i ddiogelu’r ychydig wybodaeth am ddefnyddwyr sy’n cael ei gasglu a’i gadw ar ein gweinyddion. Serch hynny, ni all y Sefydliad warantu y bydd gwybodaeth am ddefnyddiwr yn cael ei gadw’n breifat. Yr ydym yn cydnabod y gallai rhywun ddarganfod ffordd o ddatgelu gwybodaeth a’i gyhoeddi, a hynny er gwaethaf ein hymdrech ymroddedig i ddiogelu gwybodaeth breifat am ddefnyddwyr. Oherwydd hyn, ni all y Sefydliad warantu yn erbyn cyrchu heb ganiatâd at wybodaeth a roddwyd wrth weithio gyda Phrosiectau’r Sefydliad neu gymunedau cysylltiedig.