Wikimedia Community User Group Wales/07082019
Grwp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, 7 Awst 2019
- Lleoliad: Canolfan Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, LL26 0DF
- Amser: 11:00-13:30
Yn mynychu:
- Dafydd Tudur
- Gareth Haulfryn (Cof y Cwmwd)
- Lesbardd
- Elena Gruffudd
Ymddiheuriadau:
- Gareth Morlais
- Aaron Morris
- Robin Owain
- Carl Morris
- Alwyn ap Huw
- Jason Evans
- David Wyn
- Siôn Jobbins
Cofnodion
editGweithgareddau Wici yng Nghymru
edit- BBC
Cafwyd adroddiad o'r ohebiaeth rhwng Sion a Rhianedd Richards. Trafodwyd tybed a fyddai modd cyflwyno elfennau Wici i weithgareddau'r BBC ar lefel mwy gweithredol.
- Cynhadledd Addysg Donostia
Nodwyd y Gynhadledd Addysg oedd wedi'i chynnal yn Donostia yn ddiweddar. Nid oedd unrhyw un o'r rhai oedd yn y cyfarfod wedi bod yno, ond cafwyd adroddiadau bod cyflwyniad Aaron ar y gwaith ym Môn wedi cael derbyniad da.
- Cwlwm Celtaidd 2019
Nodwyd bod y gynhadledd Cwlwm Celtaidd wedi'i chynnal yng Nghernyw eleni. Nid oedd unrhyw un a oedd yn y cyfarfod wedi bod iddi, ond clywyd ei bod ar raddfa lai na'r rhai blaenorol, ond yn gynhadledd lwyddiannus arall.
- WiciPobl
Cyfeiriwyd at yr ymateb da i adroddiad traweffaith prosiect WiciPobl a bod y dull hwn o gynllunio a chyfathrebu llwyddiant gweithgareddau Wici yn rhywbeth y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
- Cof y Cwmwd
Cafwyd adroddiad o weithgaredd prosiect Cof y Cwmwd. Mae dros 750 o erthyglau wedi'u creu mewn blwyddyn. Trafodwyd hwn fel glasbrint gwych ar gyfer prosiectau cymunedol eraill. Nodwyd ei fod yn fath o weithgaredd y mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn barod iawn i'w noddi.
Cafwyd trafodaeth ynglyn a sut mae ymgyrchoedd a WiciBrosiectau yn cyfathrebu ac yn ymdrefnu. Credir bod potensial mawr i ddatblygu cymunedau i gydweithio ar ymgyrchoedd neu themau penodol, a bod angen ystyried y dulliau mwyaf effeithiol o ysgogi a chynnal gweithgarwch.
- Wici365
Rhannwyd rhai argraffiadau o'r her Wici365 fel dull llwyddiannus o gynhyrchu erthyglau, herio golygyddion a chodi ymwybyddiaeth o Wicipedia Cymraeg.
- Wici-Llên
Rhoddwyd crynodeb o dargedau prosiect newydd Wici-Llên sy'n cael ei ariannu gan Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru ac yn cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn cydweithio gyda Menter Môn.
- Cyfnewid rhyngwladol
Mae'r diddordeb yno i gymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol arall. Roedd Sweden wedi'i awgrymu yn gynharach eleni, ond prysurdeb yn golygu nad oedd unrhyw symud pellach wedi bod.
- Her rhiant a phlentyn / pontio cenedlaethau
Cynigiwyd y syniad o her rhiant a phlentyn ar fodel tebyg i Wici365 ond am gyfnod o ychydig ddyddiau. Y plentyn fyddai'n dewis testunau'r erthyglau newydd a'r rhiant yn arwain y dasg o greu'r erthygl. Trwy'r gweithgaredd, byddai rhiant yn dod i ddysgu mwy am ddiddordebau'r plentyn, y plentyn yn cael eu cyflwyno i Wicipedia o safbwynt golygyddol, a chynnwys perthnasol i ddiwylliant plant yn cynyddu.
- Wici Newyddion
Sylwyd bod yr ap Wikipedia yn cyflwyno pynciau a dolenni yn seiliedig ar straeon sydd yn y newyddion. Byddai'n dda petai Wicibrosiect, neu her Wici, i'w chael ar gyfer gwneud hyn yn y Gymraeg hefyd. Nodwyd bod cysylltiad rhwng hyn a'r gobaith o gydweithio gyda'r BBC.
Cyfarfod nesaf
editTrafodwyd y ffaith bod cyn lleied wedi gallu mynychu'r cyfarfod yn Llanrwst a chwestiynwyd a oedd wythnos yr Eisteddfod yn amser da i'r Grwp Defnyddwyr gyfarfod. Os yw'n cael ei gynnal y tu allan i'r maes, mae'n ei gwneud yn anodd i aelodau sy'n awyddus i fynd i'r Maes, ac os yw'n cael ei gynnal ar y Maes, mae'n rhaid i aelodau dalu am fynediad er eu bod efallai'n dod yn unswydd i'r cyfarfod. Awgrymwyd y byddai'n dda cynnal digwyddiad o fath arall ar Faes yr Eisteddfod.
Awgrymwyd hefyd bod angen ystyried cynnal rhai cyfarfodydd y tu allan i ddiwrnod gwaith. Cynigiwyd y syniad o gynnal cyfarfod ar-lein. Byddai hyn yn rhwydd i'w drefnu.
Dyddiadau ar gyfer cyfarfod yn ne Cymru ym misoedd yr hydref i'w trafod.