Wikimedia Community User Group Wales/23102018
Grwp Defnyddwyr Wicimedia Cymru, 23 Hydref 2018
- Lleoliad: Stiwdio 12, Llangefni, Ynys Môn
- Amser: 11:00-15:00
Yn mynychu:
- Aaron Morris
- Robin Owain
- Dafydd Tudur
- Gareth Heulfryn
- Iestyn Jones - disgybl blwyddyn 13 YGLL
- Becca Gruffydd - disgybl blwyddyn 13 YDH
- Duncan Brown
- Richard Owen
- Nia Thomas (Prif Swyddog Menter Iaith)
Ymddiheuriadau:
Croeso
editCroesawyd pawb i'r cyfarfod ac wrth gyflwyno ei hunain, cafwyd crynodeb o brosiectau a meysydd gweithgaredd pawb oedd yn bresennol.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi
editCafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu derbyn heb newidiadau.
Logos
editRhoddwyd sylw i'r ddau logo isod:
- 1.
- 2.
Cafodd y logos eu derbyn gyda'r ddealltwriaeth y byddai steil y llythyren 'c' yn y Wicimedia Cymraeg yn cael ei gysoni a bod lliw y geiriau 'Cymru' a 'Wales' yn cael ei newid i goch.
Trafodaethau gyda Wikimedia UK
editCafwyd adroddiad o'r drafodaeth gyda Wikimedia UK. Roedd y Grwp yn fodlon i ystadegau barhau i gael eu rhannu a'u cofnodi gan Wikimedia UK. Mewn ymateb i'r cynnig caredig o gefnogaeth gan Wikimedia UK i'r Grwp, nodwyd cyfieithu'r cofnodion i Saesneg a chyllideb i dalu costau sylfaenol y Grwp (lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd, ayb) fel dwy ffordd y gallai roi'r gefnogaeth honno.
Cyfansoddiad y Grwp
editNid oedd cynnydd wedi bod gyda'r dasg o lunio cyfansoddiad i'r Grwp.
Cynigiodd Nia rannu dogfen safonol yr oedd wedi'i defnyddio yn y gorffennol er mwyn ffurfioli gweithgareddau o'r math hwn. Bydd rhain yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.
Gweithgareddau perthnasol i'r Grwp
edit- Wici Môn a gweithgareddau addysg
Rhoddodd Aaron ddiweddariad ar y gwaith rhagorol sy'n cael ei gyflawni gan Wici Môn. Trafododd hefyd y modd y mae gweithgareddau Wici yn berthnasol iawn i'r Fframwaith Cymhwysiant Digidol newydd. Mae'r gweithgareddau yn mynd i fod yn ymestyn y tu hwnt i Fôn yn y misoedd nesaf.
Mae ymchwil hefyd wedi'i wneud i weld faint o ddiddordeb fyddai mewn sefydlu Wicipedia Cymraeg i blant ar fodel Gwlad y Basg. Roedd 15 o ysgolion cynradd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r syniad. Codwyd y cwestiwn ai adnodd i blant fyddai'r Wicipedia yn bennaf, neu ofod a fyddai'n cyflwyno'r proses o greu a golygu iddynt a thrwy hynny ddysgu sgiliau llythrennedd gwybodaeth a digidol. Er mor gadarnhaol yw'r diddordeb mewn sefydlu Wicipedia i Blant, mae peth pryder hefyd am ddargyfeirio amser y rhai sydd ar hyn o bryd yn golygu Wicipedia.
Nodwyd y byddai'r gynhadledd addysg yng Ngwlad y Basg ym mis Ebrill 2019 yn gyfle da i ddysgu am y model Basgaidd, a rhannu a thrafod syniadau a chwestiynau perthnasol.
- Diweddariad prosiect WiciGwerin, 'WiciBach' i ysgolion cynradd + diweddariad gwaith Bagloriaeth Cymru
Mae 21 o ddisgyblion wedi dangos diddordeb mewn cynnal gweithgaredd Wici fel rhan o'r Bac Cymreig.
- Prosiect Pobl Cymru
Rhannwyd dros 4,800 o ddelweddau o Gasgliad Portreadau'r Llyfrgell Genedlaethol ar Comin.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi gwneud cais am arian grant i gydweithio gyda Wici Môn i gynnal gweithgareddau mewn ysgolion a hacathon yn seiliedig ar y casgliad y hwn.
- Wici365
Unrhyw fater arall
editCyfarfod nesaf
editI'w drefnu yn y flwyddyn newydd.