Translation FAQ/cy
Need help? See the Translation FAQ or Meta:Babylon. All translators should also subscribe to translators-l to be kept up-to-date (and to ask questions). |
- ar /العربية (needs updating)
- as/অসমীয়া (missing)
- be /беларуская (needs updating)
- ca/català (missing)
- cy/Cymraeg (in progress)
- da/dansk (missing)
- de /Deutsch (needs updating)
- en/English (published)
- el /Ελληνικά (needs proofreading)
- eo /Esperanto (needs proofreading)
- es /español (needs updating)
- eu/euskara (missing)
- et/eesti (in progress)
- fa/فارسی (in progress)
- fi/suomi (in progress)
- fr /français (needs proofreading)
- hu/magyar (in progress)
- ia/interlingua (missing)
- id /Bahasa Indonesia (needs updating)
- it /italiano (proofreading)
- ja /日本語 (needs updating)
- ko/한국어 (in progress)
- mk/македонски (missing)
- ms /Bahasa Melayu (needs updating)
- ml/മലയാളം (missing)
- nb /norsk bokmål (needs updating)
- ne/नेपाली (missing)
- nl/Nederlands (in progress)
- oc/occitan (in progress)
- pa/ਪੰਜਾਬੀ (missing)
- pl /polski (needs updating)
- pt /português (needs updating)
- ru /русский (needs updating)
- stq /Seeltersk (needs updating)
- sv/svenska (in progress)
- se/davvisámegiella (in progress)
- ta/தமிழ் (missing)
- te/తెలుగు (missing)
- tl/Tagalog (missing)
- tr/Türkçe (in progress)
- uk/українська (ready)
- vi/Tiếng Việt (published)
- zh-hans /中文(简体) (needs updating)
- zh-hant /中文(繁體) (needs proofreading)
- diq/Zazaki (missing)
Sut allaf i helpu i wneud cais am gyfieithad? (crynodeb)
editDiweddarwyd yn ddiweddar
Cymrwch olwg ar Translation requests a chliciwch ar y ddolen am gais yr hoffech chi gyfrannu ato; bydd hyn yn eich arwain at dudalen geisiadau gyda rhestr tagiedig gyda lliwiau amrywiol (a elwir yn dabl statws), yn debyg i'r dudalen hon (gweler yr ochr dde ar frig y dudalen). Mae'r tabl statws yn dynodi statws y dudalen yn eich iaith chi. Os nad yw'ch iaith chi wedi ei farcio fel done neu published, yna mae angen eich cymorth chi ar y dudalen. Yn syml, ewch i'r dudalen a dechreuwch ei golygu. Os nad yw'r dudalen yn bodoli ar gyfer eich iaith chi eto, yna golygwch y tabl statws ac ychwanegwch eich iaith. Yr unig beth sydd angen i chi wneud er mwyn dechrau'r dudalen yw clicio ar eich iaith chi ar y tabl a chadw'r ddolen i'r fersiwn o'ch iaith chi. Am fwy o wybodaeth am dabl statws, gweler Template:Translation2/doc hefyd.
Sut ydw i'n cyfieithu? (canllaw cam-wrth-gam)
editDylid defnyddio'r canllaw hwn er mwyn cyfieithu tudalennau sydd â blwch statws cyfieithu ar ochr dde y dudalen arnynt eisoes (er enghraifft Fundraising_2008/core_messages neu Board_elections/2007/Results neu'r dudalen hon). Mae gan y blwch statws cyfieithu y pennawd ‘Translations of (description of original)' ac mae'n cynnwys rhestr o ieithoedd stdd hefyd yn ddolenni i'r cyfeithiadau yn y ieithoedd hynny.
- Os nad yw eich iaith chi ar y rhestr o ieithoedd yn y blwch statws ieithoedd, yna gallwch ei ychwanegu drwy wneud y canlynol:
- Cliciwch ar y symbol (+/-) sydd ar oche dde y teitl yn y blwch statws cyfieithu. Bydd hyn yn mynd a chi i'r blwch statws cyfieithu ei hun yn ei ffordd olygyddol.
- Ychwanegwch res i'r tabl o ieithoedd, sydd â'r côdau ieithyddol wedi eu hysgrifennu yn nhrefn yr wyddor.
- Ysgrifennwch y côd: |côd |statws ar y linell, lle mae ‘côd’ yn dynodi côd yr iaith (er enghraifft, eo ar gyfer Esperanto neu ru ar gyfer Rwsieg) a ‘statws’ yn dynodi pa mor bell faint o'r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni. Os nad ydych yn mynd i ddechrau cyfieithu'n syth, rhowch ‘missing’ fel statws. Os ydych yn bwriadu dechrau cyfieithu'n syth, rhowch ‘progress’ fel y statws.
- Cadwch y newidiadau.
- Ewch yn ôl i'r dudalen ceisiadau am gyfieithiadau.
- Er mwyn dechrau cyfieithu, cliciwch ar y ddolen ‘progress’ (neu ‘missing’) wrth ymyl eich iaith yn y blwch statws cyfieithu. Bydd hyn yn mynd a chi i flwch golygu'r dudalen gyda'r testun gwreiddiol wedi ei lenwi eisoes a pheth arweiniad hefyd ar sut i gyfieithu. (Peidiwch a chlicio ar enw'r iaith os nad oes rhywun wedi cychwyn ar y cyfieithu, oherwydd bydd hyn yn mynd a chi i dudalen wag.)
- Amnewidiwch y testun gwreiddiol gyda'ch cyfieithiad eich hun. Gallwch ddewis i gadw'r testun gwreiddiol yn weladwy yn y modd golygadwy yn unig drwy osod y wicitestun <!-- testun gwreiddiol --> o'i amgylch. Mae hyn yn hwylus i'r bobl sydd yn prawfddarllen.
- Os oes yna unrhyw wiciddolenni yn y testun gwreiddiol, yna gadewch wybodaeth y ddolen (gan gynnwys unrhyw enwau gofodenwau a theitlau tudalennau) ar ochr chwith y ddolen fel gyda'r gwreiddiol. Gellir cyfieithu'r testun ar ôl y biben neu fwlch: er enghraifft [[Cymorth:Enghraifft|cyfieithiad o enghraifft]] a [http://meta.wikimedia.org/wiki/Home cyfieithiad o deitl] . Os yw unrhyw un o'r wiciddolenni'n cysylltu i dudalennau eraill sydd wedi cael eu cyfieithu yna gallwch newid y wiciddolen i gysylltu â'r dudalen sydd wedi ei chyfieithu yn hytrach na'r gwreiddiol. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyfieithiadau, bydd y dolenni'n "goch". Nid yw hyn yn broblem, er nad yw'r tudalennau'n bodoli ar Meta-Wiki, maent yn bodoli yn eu cyrchfan (fel arfer y Foundationwiki).
- Ar ôl i chi orffen cyfieithu, ewch i'r blwch statws cyfieithu unwaith eto a newidiwch y statws o ‘progress’ i ‘proofreading’.
- Os ydych yn aros i ddod o hyd i brawfddarllenwr, gallwch osod ‘needs proofreading’ yn hytrach na ‘proofreading’ er mwyn annog cyfieithwyr eraill yn eich iaith chi i ddechrau prawfddarllen. Mae'n well i gael rhywun arall i wirio'ch gwaith, trwy adael neges ar y wicis yn eich iaith chi gan amlaf, os mai chi yw'r unig gyfieithydd yn eich iaith chi sy'n weithredol ar meta. Os nad oes unrhyw un ar gael i brawfddarllen, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi wneud y prawfddarllen eich hun.
- Pan fo statws yr iaith wedi newid o ‘progress’ i'r rhan olaf yn y broses gyfieithu, yna ni fydd y disgrifiad ‘status’ wrth ymyl yr iaith yn y blwch statws cyfieithu bellach yn wiciddolen i flwch golygu'r dudalen. Yn hytrach rydych yn mynd at y dudalen trwy glicio ar enw'r iaith. Er mwyn gwneud newidiadau i'r dudalen, cliciwch ar y tab golygu yn y ffordd arferol.
- Pan fo'r prawfddarllen wedi'i gwblhau, ewch i'r blwch statws cyfieithu unwaith eto a newidiwch y statws i ‘ready’ neu ‘done’. Os yw'ch cyfieithiad yn rhan o ‘gais cyfeithiad agored’ a bod llawer o weithgarwch cyfieithu ar waith, yna gallwch aros am weinyddwr i gyhoeddi'r cyfieithiad. Bydd y gweinyddwr yn newid y statws i ‘published’ pan fo hyn wedi cael ei wneud.
- Os nad oes unrhyw beth yn digwydd o fewn diwrnod neu ddau, gadewch neges ar dudalen sgwrs y dudalen cais am gyfieithiad yn gofyn i rywun gyhoeddi eich cyfieithiad, er enghraifft[1], neu ar Meta talk:Babylon.
- Os nad oes llawer o weithgarwch ar y dudalen rydych chi wedi cyfieithu ar hyn o bryd, yna gadewch neges ar Meta talk:Babylon os gwelwch yn dda, er mwyn hysbysu gweinyddwr fod yna dudalen i'w chyhoeddi. Yn ddelfrydol, dylai tudalennau gael eu cyhoeddi o fewn diwrnod neu ddau. Fodd bynnag, os oes ymgyrch codi arian ar waith a bod llawer o dudalennau i'w cyhoeddi, gall hyn gymryd mwy o amser.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn ystod y cyfieithiad, gadewch hwy ar naill ai tudalen sgwrs y dudalen cais am gyfieithiadau, ar Meta talk:Babylon, i translators-l, neu ar IRC.