Codi arian yn 2012/Cyfieithiad/Llythyr o ddiolch

This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/Thank you letter and the translation is 84% complete.
Outdated translations are marked like this.

Annwyl [given name],

Diolch i chi am gyfrannu i Sefydliad Wicifryngau!

Rwy'n gwybod ei fod yn rhwydd anwybyddu ein hapêl, ac rwy'n falch na wnaethoch hynny. Dyma sut y cadwn ddau ben llinyn ynghyd -- trwy'r bobl fel chi, sy'n rhoi arian i'n galluogi i ddarparu gwasanaeth di-duedd, hawdd ei gael, yn rhad ac am ddim, i bob cwr o'r byd, trwy'r wefan hon.

Mae cyfranwyr yn dweud wrthyf eu bod yn cyfrannu tuag at Wicipedia oherwydd ei fod yn ddefnyddiol, a'u bod yn ymddiried ynddo serch nad yw'n berffaith, oherwydd y gwyddant ei fod wedi ei ysgrifennu ar eu cyfer nhw. Nid modd o hybu agenda PR rhywun yw Wicipedia, nac ychwaith modd o hybu rhyw ideoleg neu gilydd. Ein nod yw adrodd y gwirionedd, a gallwn wneud hynny drwy'ch cymorth chi. Eich rhoddion chi sy'n cadw'n gwefan yn annibynnol ac yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth Wicipedia.

Gwyddwch nad eich costau chi yn unig y byddwch yn eu hariannu: mae'r cyfranwr yn talu am ei ddefnydd ei hunan o Wicipedia, ac hefyd costau cannoedd o bobl eraill. Mae eich cyfraniad yn rhoi Wicipedia ar gael i fyfyrwraig yn dysgu ysgrifennu rhaglenni cyfrifiaduron ei hunan yn Bangalore. I wraig tŷ yn Fienna sydd newydd gael gwybod bod ganddi glefyd Parkinson. I nofelydd yn ymchwilio i fywyd ym Mhrydain yn y 1850au. I fachgen 10 mlwydd oed yn San Salfador sydd newydd ddod i wybod am Carl Sagan.

Ar ran y bobl hynny, a'r hanner biliwn o ddarllenwyr eraill Wicipedia a'i chwaer-brosiectau, rwyn diolch i chi am ymuno yn yr ymdrech i roi gwybodaeth y ddynoliaeth ar gael i bawb. Mae eich rhodd yn gwneud y byd yn well lle. Diolch.

Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai mudiad di-elw sy'n cynnal Wicipedia. A fyddwch gystal ag anfon yr e-bost hwn at rai o'ch ffrindiau i'w hannog hwythau hefyd i gyfrannu. Ac os hoffech, gallwch fentro ychwanegu gwybodaeth at Wicipedia. Os y gwelwch gamgymeriad yn y teipio neu'r ffeithiau, gallwch ei gywiro a chroeso. Os y gwelwch bod rhywbeth yn eisiau, gallwch lanw'r bwlch.Peidiwch â phoeni y gwnewch gamgymeriad: mae'n digwydd o hyd wrth ddechrau golygu. Ac os gwnewch gamgymeriad, mae Wicipedwyr eraill yn ddigon parod i gywiro'r brychau.

Rwyn gwerthfawrogi eich bod yn ymddiried ynom, ac yn addo y byddwn yn gwneud defnydd da o'ch rhodd.

Diolch,
Sue

Sue Gardner
Cyfarwyddwr Gweithredol,
Sefydliad Wicifryngau, [1]

Gallwch ein dilyn ar [#twitter Twitter], [#identica identi.ca] neu [#google Google+], ein hoffi ar [#facebook Facebook] a [#blog darllen ein blog]. Dyma [#annual adroddiad blynyddol Sefydliad Wicifryngau am 2010-11], [#plan cynllun blynyddol Sefydliad Wicifryngau am 2012-13] a [#strategic chynllun strategol pum mlynedd Sefydliad Wicifryngau]. Gallwch brynu cynnyrch Wicipedia nawr yn [#shop shop.wikimedia.org].

Cofnod: Derbyniwyd rhodd o [amount] gennych ar [date].

[ifRecurring]

This donation is part of a recurring subscription. Monthly payments will be debited by the Wikimedia Foundation until you notify us to stop. If you’d like to cancel the payments please see our [#recurringCancel easy cancellation instructions].

[endifRecurring]

Dewis peidio â derbyn gwybodaeth: Hoffwn roi gwybod i chi am ddigwyddiadau ein cymuned ac am ymgyrchoedd codi arian eraill. Ond os oes gwell gennych chi beidio â derbyn e-byst oddi wrthym, gallwch glicio isod ac fe'ch tynnwn oddi ar y rhestr.:

[#unsubscribe Dad-danysgrifio]

Mae'r llythyr hwn yn gofnod o'ch rhodd. Ni gyflenwyd unrhyw nwyddau na gwasanaethau, yn rhannol nac yn gyflawn, yn dâl am y cyfraniad hwn. Mae Wikimedia Foundation, Inc. yn gorfforaeth di-elw elusennol ac iddi statws di-dreth 501(c)(3) yn Unol Daleithiau America. 149 New Montgomery, 3rd Floor, San Francisco, CA, 94105 yw ein cyfeiriad. Rhif di-dreth yr UD: 20-0049703


Please help us to [#translate translate] this email.