Codi arian yn 2012/Cyfieithiad/Y Dudalen Lanio a Negeseuon Baner

This page is a translated version of the page Fundraising 2012/Translation/Landing Page and Banner messages and the translation is 100% complete.
Banners round one
  1. Dewch i helpu!
  2. Darllena Nawr
  3. Darllenwch os gwelwch yn dda!
    Apêl bersonol gan
    Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia.
  4. Dydy Wicipedia ddim yn bwriadu gwneud elw, eto i gyd hi ydy'r #5 o holl wefanau'r byd, gyda 450 miliwn o bobl yn ymweld â hi'n fisol. Rydym yn annibynol ar Gyfalafiaeth rhemp ac yn addo na wnawn byth gyhoeddi hysbysebion.
    Mae gan Gwgl a Yahoo! filoedd o staff a gweinyddion. Mae'r rhyw 800 o weinyddion a 150 o staff sydd gennym ni yn ddigon.
    Pe bai pawb sy'n darllen hyn o druth yn cyfrannu dim ond pumpunt yna dim ond un diwrnod codi arian ychwanegol fyddai'n rhaid ei gael! Er mwyn amddiffyn a chadw ein hannibyniaeth - "annibyniaeth barn" chwedl Waldo - yna cyfranwch os gwelwch yn dda!
  5. Dydy Wicipedia ddim yn bwriadu gwneud elw, eto i gyd hi ydy'r #5 o holl wefanau'r byd, gyda 450 miliwn o bobl yn ymweld â hi'n fisol. Rydym yn annibynnol ar Gyfalafiaeth rhemp ac yn addo na wnawn byth gyhoeddi hysbysebion.
    Tybiwn bod gan Gwgl bron i filiwn o weinyddion. Mae gan Yahoo! tua 12,000 o staff. Mae gennym ni tua 800 gweinydd a 150 o staff.
    Petai pawb sy'n darllen hyn o druth yn cyfrannu $5, byddai'n hymgyrch codi arian yn cael ei gwblhau mewn diwrnod. Er mwyn amddiffyn a chadw ein hannibyniaeth - "hannibyniaeth barn" chwedl Waldo - yna cyfranwch os gwelwch yn dda!
Banners and LP's Round 2
  1. Apêl bersonol gan olygydd ar Wicipedia
  2. Apêl bersonol gan olygydd ar Wicipedia
  3. y swm a roddir ar gyfartaledd
  4. Dydy Wicipedia ddim yn bwriadu gwneud elw, eto i gyd hi ydy'r #5 o holl wefanau'r byd. Er mwyn gwasanaethu 450 miliwn o ddefnyddwyr y mis, rhaid talu costau fel ag y mae'r gwefannau mawr eraill yn eu talu, megis costau gweinyddion, pŵer, rhent, rhaglenni, staff a chymorth cyfreithiol.
    Er mwyn cadw'n traed yn rhydd, ni fyddwn byth yn cyhoeddi hysbysebion. Nid ydym yn derbyn cymorth oddi wrth lywodraethau. Rhoddion sy'n ariannu'r gwaith: $5 yw'r swm a roddir amlaf, $30 yw cyfartaledd y symiau a roddir.
    Petai pawb sy'n darllen hwn yn rhoi $5, byddem wedi cwblhau'r ymgyrch codi arian o fewn awr. Ymunwch yn yr ymgyrch i ni gael cyrraedd y nod a dychwelyd at Wicipedia.
  5. Petai pawb sy'n darllen hwn yn rhoi pris brechdan, byddem wedi cwblhau'r ymgyrch codi arian o fewn awr. Ymunwch yn yr ymgyrch i ni gael cyrraedd y nod a dychwelyd at Wicipedia.
Privacy policy notice
  1. Wrth roi, byddwch yn anfon gwybodaeth amdanoch at Wikimedia Foundation, y sefydliad di-elw sydd yn cynnal Wicipedia a phrosiectau Wicifryngau eraill, ac at ei ddarparwyr gwasanaeth yn UDA a thu hwnt yn unol â'n polisi preifatrwydd cyfranwyr.
  2. Nid ydym yn gwerthu nac yn masnachu eich gwybodaeth i neb. Am wybodaeth bellach, darllenwch ein polisi rhoi <http://wikimediafoundation.org/wiki/Donor_policy/en>.
Where your donation goes box text
  1. I'r dibenion hyn y byddwch yn cyfrannu
  2. Technoleg: Gweinyddion, band llydan, cynnal a chadw a datblygu. Wicipedia yw 5ed gwefan y byd o ran prysurdeb, ond mae'n dal i fynd ar y mymryn lleiaf o wariant o'i chymharu â'r gwefannau mawrion eraill
  3. Pobl: Mae gan y gwefannau eraill, o'r 10 mwyaf prysur, filoedd o weithwyr. 150 sydd gennym ni, sy'n golygu bod eich cyfraniad yn cael ei fuddsoddi mewn sefydliad di-elw effeithiol iawn.